24.3.07

Dwr - adnodd mwyaf gwerthfawr y blaned??

Heb ddwr, sut fyddai'n bosibl i ni fyw? Sawl gwaith ydych chi wedi defnyddio dwr heddiw? Heb ddwr, beth fyddech chi wedi gallu gwneud heddiw yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol?

Dydd Iau, 22 Mawrth 2007 oedd Diwrnod Dwr y Byd. Cliciwch ar y llun isod i fynd i'r safle gwe:


Dyma safle gwe Wateraid - elusen sydd yn anelu i gael dwr yfed glan i bawb. Mae 1.1biliwn o bobl y byd heb ddwr glan i'w yfed ar gael iddynt. Cliciwch ar y lluniau isod i ddarllen mwy am hyn. Sylwch ar y broblem hon o ran carthffosiaeth mewn tref sianti yn Bangladesh:

Fyddech chi'n hoffi treulio'ch dydd yn mynd i nol dwr at bellter o 10 milltir i ffwrdd bob dydd? Gall fod nad yw'r dwr hwnnw ddim yn lan wedi cerdded yr holl bellter. Mae'r llun isod yn dangos yr unig ffynhonnell o ddwr yn nhref Gbanja, Bo yn Sierra Leone. Cliciwch ar y llun i weld cyfres o luniau sy'n mynd o dan y teitl: Would you drink this?
Cliciwch ar y llun isod i fynd a chi at fideo sy'n dangos manteision dwr glan i gymuned o bobl yn Tanzania:
Dyma fideo arall sydd yn dangos y broblem o brinder dwr glan ym Malawi - cliciwch ar y llun i'w weld:

Edrychwch ar y ddau lun isod - maent yn rhan o gasgliad o luniau oedd yn y Guardian dydd Iau ac yn dangos agweddau gwahanol am brinder dwr. Cliciwch yma i weld y casgliad llawn:

Chongqing, China: Afon Jialing sydd wedi bron a sychu. Mae lefelau dwr prif afonydd China sef y Jialing, yr Yangtze a'r afon Felen wedi cyrraedd rhai o'r lefelau isaf erioed o ganlyniad i sychder sydd wedi gadael brom 5 miliwn o bobl yn wynebu prinder.

Hyderabad, India: Menywod yn brwydro trwy'r dyrfa er mwyn cael dwr o dancer symudol mewn ardal o drefi sianti/aneddiadau sgwatwyr:

Mae Ethiopia yn wlad yn Affrica lle mae problemau mawr gan bobl yn cael dwr glan. Er mwyn gweld sut y gallwch helpu pobl Hitosa yn Ethiopia, cliciwch ar y llun isod:

No comments: