14.4.07

Masnach teg a chotwm...a choginio!!!

Yn draddodiadol, mae pobl yn cysylltu masnach teg gyda bwydydd. Ond mae masnach teg hefyd yn cynnwys y prynu a'r gwerthu o bob math o nwyddau. Darllenwch yr erthygl isod i weld sut mae masnach teg yn gallu helpu ffermwyr cotwm hefyd - felly nid yn unig y bwyd rydym yn ei fwyta sydd yn bwysig i ffermwyr masnach teg, ond mae'r dillad rydym yn eu gwisgo yn bwysig hefyd.

Cliciwch ar y llun isod os ydych a diddordeb i gymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio masnach teg. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw creu rysait a'i bostio i'r cyfeiriad sydd i'w weld ar y safle gwe yma. Bydd angen i chi sicrhau bod eich rhieni yn cytuno i chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth - darllenwch y rheolau cystadlu yn ofalus.

No comments: