Blwyddyn 8 (Dosbarth Miss J) - Fel yr addewais dyma rai manylion i'ch helpu gyda'ch ymchwiliad am "Dwristiaeth ym Mallorca". Cliciwch yma i ddarllen post sy'n cynnwys rhai cysylltiadau gwe all eich helpu. Ac mae safle gwe defnyddiol arall yma hefyd.
Er nad yw'r erthygl hon yn son am Mallorca (Majorca) yn benodol, mae llawer o wybodaeth yma all fod o ddefnydd i chi. Cliciwch ar y llun isod i'w darllen:
Roeddwn hefyd wedi addo y buaswn yn rhoi llythyr yma y gallwch ei ddangos i'ch rhieni er mwyn iddyn nhw gael syniad o beth rydych yn ei wneud yn y cyflwyniad. Dyma'r llythyr:
I'r rhieni/To the parents
Mae'r dyddiad ar gyfer cyflwyno'r cywaith "Twristiaeth yn Mallorca" yn llyfr cyswllt eich mab/merch. Mae'r disgyblion wedi derbyn cyfarwyddiadau manwl, cynllun marcio a phamffled lle gallant gwblhau'r gwaith. Bydd pamffled o'r lefelau uchaf wedi ei gwblhau yn annibynnol o'r ffram ysgrifennu a ddosranwyd gan yr athro/athrawes. Pwrpas y cywaith fydd cyflwyno'r wybodaeth gan ffocysu ar y pwnc llosg o Dwristiaeth ym Mallorca. Bydd angen cynnwys map o'r ynys gydag allwedd, cwblhau'r graff hinsawdd, anodi lluniau, gofyn cwestiynau a gwneud gwaith ysgrifenedig. Bydd angen edrych ar pam bod twristiaid yn cael eu denu i Mallorca, beth yw manteision ac anfantesion twristiaeth i'r ynys, gofyn cwestiwn (yn dechrau gyda "Sut...?" neu "Pam...?") er mwyn gwneud ymchwil pellach, a gwerthuso trwy ystyried a chyfiawnhau beth yw'r dyfodol? Mae hwn yn aseiniad allweddol, a bydd yn cael ei ddefnyddio fel un o'r darnau o waith sy'n cyfrif tuag at fesur ei lefel o gyrhaeddiad yn Daearyddiaeth.
The presentation date for the project "Tourism in Mallorca" is in your son/daughter's contact book. The pupils have received detailed instructions, a mark scheme, and a pamphlet on which the work may be completed. A pamphlet of the highest levels will be completed independently not using the writing frame (pamphlet given by the teacher). The aim of the project is focus on Tourism in Mallorca(Majorca) as a contemporary issue. A map of the island with a key, a completed climate graph, annotated pictures, and written work (including questions starting with "How...?" and "Why...?" asked by the student) must be included. The student will need to look at why tourists are attracted to Mallorca, the advantages and dis-advantages of this, a question must be asked (How/Why...?) to enable further research, and the future of Mallorca must be evaluated (i.e. what does the student think is the future of Mallorca, and on what basis does he/she say this). This is a key assignment, and it will be used by your child's teacher as one of the pieces of work which will count towards measuring his/her level of attainment in Geography.
No comments:
Post a Comment